Cylchgrawn lliwgar, 72 tudalen, gan ferched am ferched Cymru. Mae'n llawn erthyglau ar iechyd, ffasiwn, teithio, bwyd, materion cyfoes, steilio cartref a llawer mwy!
Golygyddol
Cara
Barti bach a beef croquettes
Pwysigrwydd amrywiaeth cymdeithasol • ELIN ROBERTS sy’n trafod pa mor bwysig yw hi i gael ystod eang o bobl mewn cymdeithas i lunio polisïau sy’n berthnasol i bawb.
Pob gair yn golygu’r byd • Yn ail erthygl y gyfres newydd hon, mae CHEL BOWEN PHILLIPS yn trafod awtistiaeth ac apracsia – a’r foment y clywodd ei mab yn siarad am y tro cyntaf yn bump oed. LLINOS DAFYDD sydd wedi bod yn ei holi.
GRYM UNDOD A GWNEUD SAFIAD
ENDO A NI • Mae endometriosis yn effeithio ar 1 o bob 10 menyw. Dyma BETHAN JENKINS a MOLLY PALMER yn sôn am eu profiadau nhw o fyw gyda’r cyflwr poenus yma.
Cerdded y Camino • Bu HELEN GWENLLIAN, o Landysul, ar daith gerdded a wnaeth newid ei bywyd. Dyma hi’n dweud yr hanes.
Angharad James • Gyda haf prysur o flaen timau pêl-droed a rygbi merched Cymru, mae Cara yn edrych ymlaen at yr Ewros a Chwpan Rygbi’r Byd.
Hannah Jones
Cyrraedd y copa • Dadansoddiad FFION ELUNED OWEN ar dîm pêl-droed merched Cymru
Y llwyfan wedi’i osod • Dadansoddiad HELEDD ANNA o obeithion tîm rygbi menywod Cymru
Cywain cynnyrch Cymreig • CARYL LEYSHON, Swyddog Marchnata Cywain, sy’n esbonio eu gwaith.
Bwyd hafaidd Casa Haf • Llongyfarchiadau i RHIAN CADWALADR ar gyhoeddi ei thrydydd llyfr ryseitiau. Yma, mae hi’n rhannu rhai o’i hoff ryseitiau gyda darllenwyr Cara.
Meistres y gwin • Beth yw sommelier? LOWRI COOKE sydd wedi bod yn siarad â CATHRYN BELL, un o’r goreuon yn y byd bwyd a gwin.
atyniadau Wrecsam • Diolch i SARA ERDDIG am ei chyfraniad a’i chymorth gyda’r erthygl hon.
Teimlo’n llai swil • ELLIE KING sy’n rhannu ei phrofiad gyda Cara y tro hwn am ei thaith i ddysgu’r Gymraeg.
ar strydoedd prysur, lliwgar Hà Nôi • Mae CADI MAI wrth ei bodd yn byw ym mhrifddinas hardd Fietnam, ac yma mae’n rhannu ei hanes â chylchgrawn Cara.
Hà Nôi • Mae Fietnam yn wlad sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd ymhlith twristiaid o bob cwr o’r byd. Mae’n wlad amrywiol, hardd, lawn hanes, ac mae’r bobl yn garedig tu hwnt ac eisiau plesio. Dyw 48 awr ddim yn ddigon i weld holl drysorau prifddinas Fietnam, ond buon ni’n ddigon lwcus i gael treulio pedwar diwrnod bendigedig yma rai misoedd yn ôl. Dyma ambell awgrym.
Calon y cartref • Y gegin yw un o’r stafelloedd pwysicaf mewn unrhyw dŷ. Mae SIWAN DAVIES yn rhannu’r penderfyniadau wnaeth hi wrth ailsteilio’r gegin.
Cyfuno motifau • Yn ei hail gyfraniad i’w chyfres ar gartrefi Cymru, mae BETHAN SCOREY yn trafod tai o’r cyfnod Elisabethaidd a Jacobeaidd.
Yr haf yn ei flodau • Mae NAOMI SAUNDERS yn rhoi cyngor ar ofalu am eich gardd a chi’ch hun yng ngwres y tymor.
O’r clos
Sandalau • Y tro hwn, mae HELEN ANGHARAD HUMPHREYS yn olrhain hanes nifer o frandiau adnabyddus y sandal haf.
Clai a phridd y fferm • Yn ei herthygl gyntaf fel cyfrannwr rheolaidd i’r gyfres ‘Merched Crefftus’, mae MELERI WYN JAMES yn holi ERIN LLOYD o ardal Rhuthun.
Tylino aromatherapi • Mae DELYTH WILLIAMS yn arbenigo mewn tylino gydag olewau aromatherapi, sy’n falm i’r synhwyrau, ac yma mae’n rhoi rhywfaint o’r hanes i ni.
O Ffrwyth y Gangen Hon • SIONED ERIN HUGHES sy’n sôn am gyfrol arbennig, sy’n cyfuno cerddi a lluniau.
Llyfrau’r haf
DARLUNIAU HUDOLUS Y CHWEDLAU • Canolbwyntio ar yr artist MARGARET JONES mae MORFUDD BEVAN yn ein cyfres ‘Merched mewn Hanes’ y tro hwn.
Ysbrydoledig! • Mae LLINOS LEE yn wyneb cyfarwydd ar raglenni Heno a Prynhawn Da. Yma, mae hi’n rhannu rhai o’r cyfleoedd gafodd hi fel gohebydd a...